R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Yn dilyn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i Gomisiwn Silk, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddatganoli plismona yng Nghymru. OAQ(4)0921(FM)
2. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y gwaith o weithredu’r Strategaeth Gwyddoniaeth wrth i’w blwyddyn gyntaf ddod i ben. OAQ(4)0927(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i gynorthwyo cyn-filwyr yng Nghymru. OAQ(4)0920(FM)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu datblygu economaidd trawsffiniol yng Ngogledd Cymru.OAQ(4)0925(FM)
5. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau rhoi organau yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0930(FM)
6. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.OAQ(4)0923(FM)W
7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ynni adnewyddadwy yng Nghymru.OAQ(4)0928(FM)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am werthuso cydsyniadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru.OAQ(4)0932(FM)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio economi Cymru. OAQ(4)0919(FM)
10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau effaith llifogydd domestig. OAQ(4)0934(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau IVF ar gyfer trigolion Gorllewin De Cymru.OAQ(4)0918(FM)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Orchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006. OAQ(4)0926(FM)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twristiaeth yn Nwyrain De Cymru.OAQ(4)0931(FM)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o wasanaethau cwnsela yn cael eu darparu i blant sy’n cael eu cam-drin mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0922(FM)W
15. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau y bydd canol trefi a’r stryd fawr yng Nghymru yn goroesi yn y dyfodol. OAQ(4)0933(FM)